Change UK – The Independent Group[1] | |
---|---|
![]() | |
Arweinydd | Anna Soubry |
Slogan | Politics is broken. Let’s change it. |
Sefydlwyd | 18 Chwefror 2019 |
Daeth i ben | 19 Rhagfyr 2019 |
Holltwyd oddi wrth | Y Blaid Lafur Y Blaid Gydweithredol Y Blaid Geidwadol |
Pencadlys | 521 Terminal House 52 Grosvenor Gardens London SW1W 0AU |
Tŷ'r Cyffredin | 0 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 0 / 781 |
Senedd Ewrop (Seddi'r DU) | 0 / 73 |
Gwefan | |
voteforchange.uk |
Roedd The Independent Group for Change a adnabyddwyd hefyd fel Change UK, yn grŵp gwleidyddol canolbleidiol Prydeinig o Aelodau Seneddol. Fe'i ffurfiwyd yn Chwefror 2019 ac yr arweinydd oedd Anna Soubry. Fe'i ddiddymwyd yn fuan wedi Etholiad Cyffredinol 2019 am na lwyddodd y pedwar ymgeisydd ennill sedd.[2]
Yn Chwefror 2019 ymddiswyddodd saith aelod seneddol o'r Blaid Lafur, gan nodi eu bod yn anfodlon ag agwedd arweinyddiaeth Llafur i Brexit a'r ffordd oedd yn delio â honiadau o wrth-Semitiaeth yn y blaid.[3] Yn fuan wedi hynny, ymunodd cyn-AS Llafur arall a thri AS Ceidwadol oedd yn crybwyll ei gwrthwynebiad i sut oedd y Ceidwadwyr yn trin Brexit. Mae holl aelodau'r grŵp yn cefnogi ail refferendwm ar aelodaeth o'r UE.